Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’n chwilio am grŵp amrywiol o bobl i ymuno â ni, sy’n gallu helpu i ysbrydoli pobl Cymru a’r byd gyda dawnsio gwych. Rydym eisiau canfod dulliau newydd o weithio i gyrraedd pobl newydd a gwahanol - i gyflawni ein cenhadaeth i fynegi syniadau y tu hwnt i eiriau, gan archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i fyw yng Nghymru a’r byd yn yr oes sydd ohoni.
Rydym yn chwilio am hyd at 4 o ymddiriedolwyr newydd, gan ganolbwyntio fwyaf ar y rhai hynny sydd â sgiliau a phrofiad yn y celfyddydau perfformio, materion cyfreithiol a llywodraethiant, cyllid, dysg a chyfranogiad, a chodi arian. Bydd pob ymddiriedolwr yn gwasanaethu am hyd at 2 dymor o 3 blynedd yr un.
Mae ehangu ymgysylltiad, hyrwyddo arloesedd, dadlau o blaid dawns a meithrin ein gwydnwch wrth wraidd popeth a wneir gan CDCCymru. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yng Nghymru’n cael cyfleoedd cyfartal i gael mynediad i fyd dawns.
Rydym yn mynd ati’n arbennig i annog ceisiadau gan bobl nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y sector dawns, a gan y rheiny sy’n profi gwahaniaethu. Rydym yn ymroddedig i ddiwallu anghenion o ran mynediad; rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch. Mae’r swyddi’n ddi-dâl, ond gellir ad-dalu costau.
Am ragor o wybodaeth a phecyn ymgeisio sydd ar gael mewn sawl fformat, ymwelwch â’n gwefan os gwelwch yn dda, https://ndcwales.co.uk/cy/ymddiriedolwr
Mae’r pecyn yn egluro sut i gysylltu â’r Cadeirydd am sgyrsiau rhagarweiniol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, dydd Gwener 27 Mehefin 2025.
-
-
Ymunwch â ni ar gyfer un o'n sesiynau Tŷ Agored anffurfiol, yn y Tŷ Dawns neu ar-lein lle byddwch chi'n cael y cyfle i gwrdd â'r Ymddiriedolwyr presennol ac aelodau tîm CDCCymru. Wedi'u cynnal gan Alison Thorne (Cadeirydd), mae'r sesiynau hyn yn ffordd wych o ddysgu mwy am ein cenhadaeth, ein gweledigaeth, a'r gwaith a wnawn fel sefydliad.
Byddwch hefyd yn darganfod beth mae'n ei olygu i fod yn Ymddiriedolwr gyda CDCCymru, y sgiliau a'r profiad rydym yn chwilio amdanynt mewn aelodau bwrdd newydd a chael y cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Sesiwn 1
Dydd Mercher 4 Mehefin (Bore)
Ar-lein 8.30am - 9.30am
Sesiwn 2
Dydd Llun 16 Mehefin 2025 (Gyda'r nos)
Tŷ Dawns, Bae Caerdydd 5-6pm
https://ndcwales.co.uk/cy/ty-agored-ymddiriedolwyr
Cofrestrwyd fel Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant yng Nghymru a Lloegr o dan rif 1672419
Cofrestrwyd fel Elusen yng Nghymru a Lloegr o dan rif 326227