Os maent ar gael, hysbysebir cyfleoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Nid yw Caerdydd Creadigol yn gyfrifol am ddewis iaith hysbysebwyr allanol.
Musical Theatre Dance Facilitator
Postiwyd gan: Breakthrough_T…
Hip Hop Facilitator Year 1 – Year 4
Postiwyd gan: Breakthrough_T…
Hip Hop Facilitator Pre-School – Year 2
Postiwyd gan: Breakthrough_T…
Musical Theatre Acting Facilitator
Postiwyd gan: Breakthrough_T…
Cynorthwyydd Marchnata a Chynnwys
Postiwyd gan: lornahooper
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw conservatoire cenedlaethol Cymru. Mae ei enw da yn seiliedig ar ragoriaeth ac mae’n denu’r doniau gorau. Nod y tîm Digidol a Brand yw cysylltu, ysbrydoli ac arloesi er mwyn rhannu stori Coleg Brenhinol Cerdd a Drama gyda'r byd.
Mae'r Cynorthwyydd Marchnata a Chynnwys yn gyfrifol am gefnogi tîm prysur i gyflwyno cynnwys a dulliau cyfathrebu rhagorol, yn ogystal â chodi proffil y Coleg. Gan weithio o fewn yr adran Ddatblygu, byddwch hefyd yn cydweithio'n agos ag adrannau eraill i gyflawni gweledigaeth a strategaeth y Coleg.
Prif Weithredwr
Postiwyd gan: Andy_Collinson
Dewch i arwain pennod newydd flaengar i ddiwylliant yng nghanol Cymru.
Mae Theatr Brycheiniog, a leolir ynghanol tirwedd eithriadol Bannau Brycheiniog yng nghanolbarth Cymru, yn chwilio am arweinydd eithriadol – rhywun sy’n meddu ar weledigaeth, gwytnwch a mentergarwch masnachol – i helpu i roi siâp ar bennod nesaf ein trawsnewidiad.
Ffocws

Postiwyd gan: Ffotogallery
Mae Ffocws yn rhan o genhadaeth Ffotogallery i gefnogi artistiaid gweledol sydd ar ddechrau eu gyrfa yng Nghymru, i'r rhai sydd wedi bod trwy addysg ffurfiol, a'r rhai sydd wedi cael llwybrau eraill i ffotograffiaeth. Cefnogir Ffocws yn hael gan Sefydliad Teulu Ashley ac Elusen y Groser.
Amdanom Ni
Gynorthwyydd Cyllid

Postiwyd gan: Hijinx
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cyllid amryddawn i ymuno â’n tîm a helpu i gyflawni gweithrediadau cyllid llyfn, prydlon a chywir o ddydd i ddydd.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi rhediadau talu, anfonebu, cysoni, cadw llyfrau a gweinyddu ariannol ar draws Hijinx. Byddwch yn gweithio’n glos gyda’r Rheolwr Cyllid ac yn rhoi cefnogaeth ar draws prosesau ariannol mewnol ac yn wynebu’r defnyddwyr. Dyma gyfle gwych i unigolyn uchelgeisiol gyda llygad am fanylion, sy’n hoffi trefn ac â dymuniad i ddysgu a thyfu mewn tîm deinamig a chreadigol.
Rheolwr Perthynas (Arloesi a’r Celfyddydau Digidol a Rhyngddisgyblaethol)
Postiwyd gan: sarallewelyn
Am y rôl
Fel Rheolwr Perthynas - Arloesi a'r Celfyddydau Digidol a Rhyngddisgyblaethol, byddwch yn gysylltydd allweddol yn ecosystem technoleg ddigidol a chreadigol sy'n tyfu yng Nghymru. Gan weithio ochr yn ochr â Dirprwy Gyfarwyddwr y Celfyddydau, byddwch yn cefnogi arferion arloesol ar draws celfyddyd ddigidol, cyfryngau trochol, creadigrwydd AI, XR, a mwy. Byddwch yn adeiladu rhwydweithiau cryf, yn helpu i gyflawni nodau strategol, ac yn ymgorffori'r Iaith Gymraeg, Amrywiaeth, Cynhwysiant, a Chyfiawnder Hinsawdd ym mhob agwedd ar eich gwaith.
Rheolwr Perthynas - Pobl Ifanc a Sgiliau
Postiwyd gan: sarallewelyn
Am y rôl
Fel Rheolwr Perthynas - Pobl Ifanc a Sgiliau, byddwch yn gysylltydd dibynadwy yn ecosystem celfyddydau ieuenctid Cymru. Gan weithio gyda Phennaeth Pobl Ifanc a Sgiliau, byddwch yn cefnogi artistiaid a sefydliadau ifanc, gan gryfhau datblygiad sgiliau creadigol a sicrhau bod lleisiau ifanc Cymru yn cael eu dathlu a'u cefnogi. Bydd eich gwaith yn integreiddio'r Iaith Gymraeg, Amrywiaeth, Cynhwysiant, a Chyfiawnder Hinsawdd.