Rheolwr Marchnata (Cynulleidfaoedd) - cyfnod mamolaeth

Cyflog
£26,396
Location
Caerdydd
Oriau
Maternity cover
Closing date
06.02.2023
Profile picture for user Royal Welsh College of Music and Drama

Postiwyd gan: Royal Welsh Co…

Dyddiad: 10 January 2023

Mae’r Rheolwr Marchnata (Cynulleidfaoedd) yn llywio dull rhagweithiol o farchnata a datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer rhaglen gyhoeddus helaeth o berfformiadau ac arddangosfeydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC). Mae’r rhaglen yn cyfuno perfformiadau a chynyrchiadau gan adrannau cerddoriaeth a drama’r Coleg, yn ogystal ag ymweliadau gan artistiaid a chwmnïau proffesiynol.

Wedi’i leoli yng Nghaerdydd mae’r Rheolwr Marchnata (Cynulleidfaoedd) yn gweithio o fewn y tîm Rhaglennu Creadigol, yn adrodd i’r Pennaeth Rhaglennu Creadigol ac yn rheoli’r Cynorthwyydd Rhaglennu Creadigol a Marchnata. Mae’r tîm yn rhan o’r adran Materion Allanol, ac mae’r rôl hefyd yn gweithio’n agos gydag adrannau eraill i gyflwyno gweledigaeth a strategaeth y Coleg ar draws pob agwedd ar ymgysylltiad y Coleg â chynulleidfaoedd o blith y cyhoedd a myfyrwyr.

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn fan i bawb, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a phrofiad. Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 30 o wledydd. Cyfunir doniau a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr gydag addysgu eithriadol a chysylltiadau digyffelyb â’r diwydiant, i wireddu breuddwydion. Mae uchelgais a chydweithio creadigol yn ganolog i’n rhagoriaeth.

Caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Gyda rhai o leoliadau mwyaf clodfawr Cymru, mae’r Coleg yn gweithredu canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen perfformiadau gan artistiaid proffesiynol o’r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr. Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel eu bod yn gwthio ffiniau newydd ac yn gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, gan anelu at yrfaoedd gwych. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, y rheini sy’n hunan-nodi fel anabl ac unigolion niwroamrywiol a thrawsryweddol yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau.

Rydym yn cynnig nifer o fuddion i gyflogeion sy’n cynnwys cynllun pensiwn rhagorol a gwyliau blynyddol hael. Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni.

Os ydych yn ymgeisydd llwyddiannus, a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu os ydych yn cael eich cyflogi gan PSS Ltd ar hyn o bryd), fe’ch cyflogir gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a Cholegau. Os ydych yn ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cysylltwch â hradviser@southwales.ac.uk os oes gennych ragor o gwestiynau.                                                                          

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â penny.king@rwcmd.ac.uk

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.