Dyma gyfle cyffroes am unigolyn deinamig a phrofiadol sy’n angerddol am feithrin cymunedau.
Dyddiad cau: 9am, dydd Llun 3 Mawrth
Cyflog: £34,000 y flwyddyn (dyfarniad cyflog hyd nes)
Cytundeb: Parhaol (yn amodol ar gyfnod prawf o 3 mis)
Oriau: 40 awr yr wythnos, oriau ychwanegol i'w cymryd fel amser o'r gwaith (TOIL). Mae rhywfaint o waith ar y penwythnosau a gyda’r nos yn angenrheidiol.
Bydd y Pennaeth Ymgysylltu yn meithrin ein perthnasoedd presennol, yn ogystal â datblygu ffyrdd arloesol o gyrraedd a datblygu cynulleidfaoedd newydd. Rydyn ni am gysylltu’n ddyfnach â nhw, gan greu cyfleoedd cadarnhaol ac ystyrlon ar gyfer ymgysylltu a chyd-greu drwy ddigwyddiadau cyhoeddus bwriadol, dychmygus ac ysbrydoledig.