Cyfle cyffrous i weithio ar raglen gyrfaoedd newydd yng Nghymru: Canfod Gyrfaoedd Creadigol / Discover! Creative Careers, Cymru.
Gyda mwy o fuddsoddiad gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), mae rhaglen 2025 - 2026 yn cynnwys sawl datblygiad sylweddol gan gynnwys ehangu i ddwy o wledydd y DU, gan ehangu ei chyrhaeddiad, a chysylltu hyd yn oed mwy o bobl ifanc â chyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau gyrfaoedd ar draws holl is-sectorau'r diwydiant creadigol.
Adran: Gweithredu: Cymru
Oriau: Amser llawn, 35 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cyflog: £40,000 pro-rata, ynghyd â buddion Into Film
Telerau: Tymor penodol hyd at 31ain Mawrth 2026
Lleoliad: Cymru (hybrid) gan deithio i Gaerdydd / ledled Cymru yn ôl yr angen
Yn adrodd i: Arweinydd Rhaglenni, Into Film Cymru
Mae holl staff Into Film yn gweithio mewn patrwm gwaith hybrid, gan gyfuno gweithio gartref â mynychu eu cyfarfodydd lleol a chenedlaethol yn ôl yr angen, ynghyd â rhywfaint o deithio ledled Cymru ac o bosibl ledled y DU, fel sy’n briodol i'r rôl. Swyddfa leol y rôl hon fydd Chapter, Caerdydd.
Sut i wneud cais : Os hoffech wneud cais, yna a fyddech gystal ag anfon yr isod atom:
• Dim mwy na 400-500 gair yn egluro sut eich bod yn cwrdd â gofynion y swydd
• Pryd y byddwch chi ar gael i ddechrau (gan anelu at ddechrau Awst) hyd at 31 Mawrth 2026.
• Eich manylion cyswllt
Ebostiwch yr uchod erbyn 9am Dydd Mercher 23 Gorffennaf 2025 i HR@intofilm.org, gan nodi teitl y swydd yn glir (os ydych chi’n gwneud cais am y ddwy swydd yna plis gwneud dau gais unigol). Byddwn yn cysylltu gyda phawb erbyn y 28ain o Orffennaf a bydd unrhyw gyfweliadau yn cael eu cynnal ar 31 Gorffennaf neu 1 Awst.
Ynglŷn ag Into Film
Into Film yw prif elusen y Deyrnas Unedig ar gyfer ffilm mewn addysg ac yn y gymuned. Rydyn ni’n darparu gwybodaeth a chyngor am yrfaoedd yn y diwydiant sgrin, yn cefnogi gwneuthurwyr ffilm ifanc, ac yn helpu i gyflwyno pŵer adrodd storïau drwy’r ddelwedd symudol wrth addysgu yn y dosbarth.
Rydyn ni hefyd yn cynnal Gŵyl Into Film yn flynyddol sy’n galluogi mwy na 400,000 o ddisgyblion i ymweld â’r sinema am ddim, a Gwobrau Into Film - y prif ddigwyddiad yn y DU i arddangos doniau ifanc ym maes creu ffilmiau.
Mae rhaglen graidd Into Film ar gael am ddim i ysgolion gwladol, colegau a lleoliadau ieuenctid eraill yn y Deyrnas Unedig, diolch i gymorth gan y BFI, sy’n dyfarnu arian achosion da y Loteri Genedlaethol, a thrwy arianwyr allweddol eraill gan gynnwys Cinema First a Northern Ireland Screen.
Ynglŷn â rhaglen Canfod Gyrfaoedd Creadigol
Mae Canfod Gyrfaoedd Creadigol yn rhaglen sy’n cael ei hariannu gan y llywodraeth a’i harwain gan y diwydiant. Mae’n gweithio i sicrhau bod mwy o dalent, a thalent mwy amrywiol, yn dod i mewn i'r diwydiannau creadigol drwy ystod ehangach o lwybrau. Mae'r rhaglen hybrid o weithgareddau ac adnoddau sydd ar gael am ddim yn cynnig cyfleoedd go iawn i ddod i gyswllt â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, offer ar-lein, hyfforddiant a chefnogaeth drwy gydol y flwyddyn.
Dechreuwyd Canfod Gyrfaoedd Creadigol, a elwir hefyd yn Rhaglen Gyrfaoedd Creadigol, gyda chyllid gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn 2018 ac mae wedi cael ei llunio a'i chefnogi'n uniongyrchol gan fusnesau creadigol, sefydliadau, cyrff masnach ac unigolion. Caiff y rhaglen ei harwain gan ScreenSkills mewn partneriaeth â dros 25 o sefydliadau a thrwy gydweithio â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, ac ym maes addysg a gyrfaoedd.
Bydd Canfod Gyrfaoedd Creadigol yn darparu gwybodaeth am yrfaoedd a chyfleoedd i gwrdd â chyflogwyr i bobl ifanc 11-18 oed a'r rhai sy'n cefnogi eu penderfyniadau gyrfa, gyda'r nod o feithrin gweithlu mwy amrywiol a chynhwysol i’r dyfodol. Bydd y rhaglen yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2026, a bydd yn cynnwys gweithio ar draws partneriaid ac mewn cydweithrediad â sefydliadau’r diwydiannau creadigol ar draws 12 is-sector ledled Cymru.
Crynodeb o’r Rôl
Bydd Rheolwr y Prosiect yn arwain y gwaith o gyflawni Canfod Gyrfaoedd Creadigol yn llwyddiannus, gan sicrhau bod yr holl weithgarwch wedi'i gynllunio'n dda, yn gynhwysol, ac yn bodloni dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt.
Byddwch yn rheolwr llinell ar Gydlynydd y Prosiect, yn goruchwylio partneriaethau ag ysgolion a sefydliadau cyflawni, ac yn gweithredu fel y prif bwynt cyswllt â thîm Discover! ledled y DU. Gan weithio'n agos gydag Arweinydd Rhaglen Into Film Cymru, mae'r rôl hon yn sicrhau bod y prosiect yn rhedeg yn unol â’r amserlen a'r gyllideb ac yn cyflwyno digwyddiadau llawn gwybodaeth ac ysbrydoliaeth i bobl ifanc ac ysgolion yn effeithiol ac yn effeithlon, a bod y gwerthuso a'r adrodd yn gadarn.
Mae hon yn rôl ddeinamig a chyflym sy'n ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd â phrofiad o reoli rhaglenni addysg neu raglenni sy'n ymwneud â phobl ifanc a gweithio nifer o bartneriaid a chyllidwyr. Mae'r rôl hon yn gofyn am sgiliau trefnu rhagorol, cyfathrebu dwyieithog cryf (Cymraeg/Saesneg), ac ymrwymiad i ymarfer cynhwysol.
Prif Gyfrifoldebau:
• Arwain ar gynllunio, cyflawni a goruchwylio prosiect Canfod Gyrfaoedd Creadigol.
• Rheoli gwaith Cydlynydd y Prosiect, gan sicrhau cyflawniad gweithredol esmwyth ar draws nifer o ysgolion a rhanbarthau.
• Gweithio'n agos gydag Arweinydd Rhaglen Into Film Cymru, staff prosiect Discover! Creative Careers sy’n gweithio i Into Film, staff Into Film ar draws yr adrannau, a Chyfarwyddwr Prosiect Discover! Creative Careers y DU i sicrhau bod gwaith cyflawni lleol yn cyd-fynd â’r strategaeth, y cyfathrebu a’r cynlluniau gwerthuso yn genedlaethol.
• Sicrhau bod holl weithgarwch y prosiect yn bodloni dangosyddion perfformiad allweddol, amserlenni a gofynion cyllidwyr, gan gynnwys targedau ymgysylltu, amrywiaeth cyrhaeddiad ac ansawdd y ddarpariaeth.
• Sefydlu a chynnal perthnasoedd â phartneriaid allweddol y prosiect, gan gynnwys ysgolion, sefydliadau cyflawni a rhanddeiliaid y diwydiant creadigol.
• Goruchwylio arferion diogelu, hygyrchedd a chynhwysiant ar draws pob gweithgaredd, gyda chymorth gan sefydliadau partner a thîm Into Film.
• Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu cynlluniau rheoli risg a phrotocolau cyflawni.
• Gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu cyfathrebiadau a chynnwys sy'n hyrwyddo'r prosiect ac yn rhannu a thynnu sylw ei effaith.
• Arwain ar fonitro a gwerthuso prosiectau, gan weithio gyda thîm y DU i adrodd ar gynnydd a chanlyniadau i gyllidwyr.
• Trefnu ac arwain cyfarfodydd rhanddeiliaid cenedlaethol y prosiect - gan weithio gyda phartneriaid addysg a'r diwydiant creadigol yn genedlaethol ac yn rhanbarthol.
• Darparu diweddariadau ac adroddiadau cynnydd rheolaidd i Arweinydd Rhaglen Into Film Cymru a Thîm Cyflawni y DU.
• Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill a gaiff eu pennu gan Into Film.
Cyfrifoldebau Cyffredinol:
• Ymrwymiad i ansawdd yn fewnol ac ym mhob cyswllt â rhanddeiliaid Into Film gan gynnwys athrawon, plant a phobl ifanc, partneriaid yn y diwydiant, cyllidwyr, cefnogwyr, rhieni a gofalwyr, ac aelodau'r cyhoedd.
• Ymrwymiad a chyfranogiad gweithredol wrth helpu Into Film i fyw ei werthoedd a'i ethos mewn perthynas â thegwch, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy bopeth y mae'n ei wneud.
• Cyfrannu at gynllunio hirdymor i sicrhau twf yn unol â'r galw a'r adnoddau.
• Cyfrannu at fonitro a gwerthuso gwaith Into Film yn rheolaidd.
Manyleb y Person:
Gofynion Sylfaenol:
• Profiad sylweddol o reoli prosiectau addysg a/neu ieuenctid ar raddfa fawr sy'n cynnwys nifer o bartneriaid a thimau cyflawni.
• Sgiliau rheoli prosiect a chyfathrebu cryf yn y Gymraeg a'r Saesneg — gan gynnwys cynllunio, dirprwyo, goruchwylio cyllideb, a chyflawni yn erbyn targedau.
• Profiad o reoli staff llinell neu gydlynu timau amlddisgyblaethol.
• Sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i gydbwyso goruchwyliaeth strategol a manylion gweithredol.
• Cyfarwydd â'r dirwedd addysg yng Nghymru a/neu brofiad o gyflwyno rhaglenni mewn ysgolion neu ar gyfer pobl ifanc.
• Cyfarwydd â'r diwydiannau creadigol yng Nghymru a'r cyfleoedd a'r heriau y mae sefydliadau a chwmnïau'n eu hwynebu.
• Dealltwriaeth o'r dirwedd gyrfaoedd yng Nghymru a fframweithiau Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith a Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith.
• Dealltwriaeth gref o ddiogelu, mynediad a chynhwysiant mewn lleoliadau addysg neu ieuenctid.
• Hyder wrth ddefnyddio systemau CRM (e.e. Salesforce), offer olrhain prosiectau, a meddalwedd swyddfa safonol.
• Gallu amlwg i ymgysylltu â chyllidwyr, partneriaid a rhanddeiliaid mewn modd proffesiynol a chydweithredol.
• Y gallu i deithio'n annibynnol ledled Cymru ac o bryd i'w gilydd i leoliadau eraill yn y DU. Mae trwydded yrru lawn, lân y DU a mynediad at gerbyd yn hanfodol.
Dymunol:
• Profiad o gyflawni prosiectau wedi’u hariannu gan gyrff cyhoeddus neu loteri, gyda dealltwriaeth o gydymffurfiaeth ac adrodd.
• Arbenigedd monitro a gwerthuso, gan gynnwys adrodd ansoddol a meintiol.
• Cyfarwydd â phecyn Microsoft Office
• Gwerthfawrogiad o, a gwybodaeth am, ffilmiau a dysgu creadigol.
Mae'n ofynnol i bob gweithiwr sy'n gweithio'n rheolaidd gyda data plant ac aelodau ymgymryd â chliriad DBS uwch (a/neu wiriad Access NI neu wiriad Disclosure Scotland, yn dibynnu ar leoliad gwaith), a geir ar draul Into Film; mae cyflogaeth yn ddibynnol ar hyn.
Buddion Into Film :
• Gwyliau blynyddol - 28 diwrnod (llawn amser / pro rata), gan gynnwys 3 diwrnod ar gyfer Nadolig a'r flwyddyn newydd
• Pensiwn - hyd at 5% o'r cyflog (2% dros y cyfraniad cyflogaeth statudol disgwyliedig)
• Gweithio'n hyblyg - gan gynnwys oriau cywasgedig, rhannu swydd - byddwn yn ystyried pob cais yn deg, ond Into Film i gymeradwyo
• Cyfnod rhieni / tadolaeth / rhannu seibiant rhieni
• Cefnogaeth ariannol i gyrsiau astudio di-log
• Cefnogaeth ariannol di-log i deithio / sgwter / beic
• Rhaglen Cefnogaeth Cyflogwyr - cefnogaeth lles 24/7, cyngor ac arweiniad
• Yswiriant iechyd Wisdom - di-gyfraniad (heb law am drwy gyfraniad treth cyflog)
• BenefitHub - porthol lle darperir gostyngiadau ar gynnyrch a gwasanaethau pellach