Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cyllid amryddawn i ymuno â’n tîm a helpu i gyflawni gweithrediadau cyllid llyfn, prydlon a chywir o ddydd i ddydd.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi rhediadau talu, anfonebu, cysoni, cadw llyfrau a gweinyddu ariannol ar draws Hijinx. Byddwch yn gweithio’n glos gyda’r Rheolwr Cyllid ac yn rhoi cefnogaeth ar draws prosesau ariannol mewnol ac yn wynebu’r defnyddwyr. Dyma gyfle gwych i unigolyn uchelgeisiol gyda llygad am fanylion, sy’n hoffi trefn ac â dymuniad i ddysgu a thyfu mewn tîm deinamig a chreadigol.
Teitl Swydd: Cynorthwyydd Cyllid
Rheolwr Llinell: Rheolwr Cyllid
Yn gyfrifol am: Amherthnasol
Contract: Swydd barhaol (6 mis o brawf)
Oriau: Rhan-amser, 15 awr i’w cyflawni’n hyblyg yn ôl y gofyn i gyflawni gofynion y swydd. Rhoddir amser o’r gwaith in lieu.
Yn gweithio o: Swyddfa Hijinx, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd – gweithio hybrid ar gael
Cyflog/Buddion: £25,000 y flwyddyn pro-rata (£10,000 gwirioneddol)
Mae Hijinx yn cynnig cynllun pensiwn gweithle trwy Nest, cynllun Beicio i’r Gwaith a Rhaglen Cynorthwyo Gweithwyr.
Yn ychwanegol, rydym yn cynnig cefnogaeth i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg. Mae Hijinx wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus a bydd yn gweithio’n glos gyda deiliad y swydd i sicrhau bod ei anghenion hyfforddiant yn cael eu bodloni.
Gwyliau: 25 diwrnod y flwyddyn a gwyliau banc statudol, pro rata (13.2 diwrnod y flwyddyn mewn gwirionedd)