Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn dibynadwy, disgybledig, a threfnus gyda sgiliau ysgrifennu a dadansoddi gwych sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’r tîm Cyhoeddi ar gyfod dros dro tan Ragfyr 31ain er mwyn cwblhau’r gwaith pwysig hwn.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni barhau i ddatblygu ein prosesau mewnol ar gyfer dyfodol newydd darlledu sydd yn cynnwys ffrydio a gwasanaethau aml blatfform.
Eich prif gyfrifoldeb fydd paratoi a gwella'r metadata golygyddol sy’n gysylltiedig â’n rhaglenni, gan sicrhau ei fod yn gywir, yn ddeniadol ac wedi’i optimeiddio ar gyfer mynediad a chynnwys cyflym.
Mae metadata yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth, megis: Technegol: hyd y rhaglen, sgorau/cyfraddau, Golygyddol: teitlau, crynodebau, genre, cast/creu, geiriau allweddol, Delweddau: delweddau cyfresi ac episodig.
Manylion eraill
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa a chyfnod swyddfa parhaus am y bythefnos gyntaf er mwyn hyfforddi- mae'n debygol y bydd yr hyfforddiant yma yn digwydd yn ein swyddfa(feydd) yng Nghaerfyrddin neu Gaerdydd).
Cyflog: £35,000.00-£39,000.00.
Cytundeb: Dros dro tan 31 Rhagfyr 2025.
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 3 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 28 Gorffennaf 2025 trwy lenwi’r ffurflen gais yma.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.