Mae tîm Newyddiadurwyr Arbenigol BBC Cymru Wales yn rhoi sylw i’r straeon mawr mewn gwleidyddiaeth a pholisi a sut maen nhw effeithio ar ein cynulleidfaoedd. Rydyn ni’n darparu newyddion a dadansoddiadau ar gyfer ein gwasanaethau teledu, radio a digidol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r Gohebydd Diwylliant yn rôl newydd rydyn ni wedi’i chreu i ehangu hyd a lled ein newyddiaduraeth.
-Byddwch yn gallu delio’n gyfforddus â phopeth o Opera Cenedlaethol Cymru i’r ffilm fawr ddiweddaraf, o gyngherddau Tom Jones i doriadau i gyllid celfyddydol lleol. Mae’n friff eang a fydd yn dod â chi i gysylltiad â rhannau amrywiol o fywyd Cymru.
-Rydyn ni’n disgwyl i chi dorri’r straeon mwyaf a sicrhau’r cyfweliadau mawr, ac adrodd amdanyn nhw i gyd mewn ffordd hyderus, broffesiynol a diddorol sy’n sicrhau ein bod yn cyrraedd ein holl gynulleidfaoedd.
-Byddwch yn llunio pecynnau ar gyfer teledu a radio, yn gohebu’n fyw yn y stiwdio ac ar leoliad, ac yn ysgrifennu mewn ffordd ddiddorol a chraff i’n cynulleidfaoedd digidol. Byddwch hefyd yn wyneb rheolaidd ar ein sianeli cymdeithasol.
-Byddem hefyd yn disgwyl i chi chwarae rhan yn y gwaith o wneud penderfyniadau golygyddol – gan gynnwys blaenoriaethu eich amser eich hun – ar draws yr ystafell newyddion ehangach.