Darlithydd Llais

Cyflog
£41,064 - £47,389
Location
Caerdydd
Closing date
04.11.2025

Postiwyd gan: lornahooper

Dyddiad: 23 October 2025

Y swydd:

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, yn recriwtio Darlithydd Llais am gyfnod penodol o flwyddyn.

 

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn chwilio am ymarferydd egnïol a phrofiadol i ymuno â’r Pennaeth Llais, a thîm profiadol a blaengar sy'n rhoi pwyslais ar rymuso myfyrwyr i ddatblygu eu hymarfer creadigol eu hunain a'u cefnogi i fod yn artistiaid sy'n barod ar gyfer y diwydiant. Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o drefnu, addysgu a chefnogi astudiaethau lleisiol, gwaith testun a thafodiaith ar draws pob lefel o raglenni Actio a Theatr Gerdd y Coleg Cerdd a Drama.  Bydd ymarferwyr sydd ag ymroddiad ac angerdd am ymarfer cyfoes, cynhwysol yn ymuno ag amgylchedd gwaith cydweithredol sy'n rhoi myfyrwyr wrth galon ei waith.

 

Mae hon yn swydd amser llawn ar gontract cyfnod penodol o flwyddyn.Yr oriau gwaith yw’r rhai sy’n ofynnol i gyflawni anghenion y swydd.

 

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Alice White (Pennaeth Llais) alice.white@rwcmd.ac.uk

 

Gwybodaeth am y Coleg:

Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob cwr o’r byd.  Fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn sbarduno arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o gerddorion, actorion, dylunwyr, technegwyr a rheolwyr celfyddydau o fwy na 30 o wledydd.  Mae doniau a photensial aruthrol ein myfyrwyr yn asio ag addysgu rhagorol y Coleg a’i gysylltiadau digymar yn y diwydiant i wireddu breuddwydion.  Mae uchelgeisiau creadigol a chydweithio yn ganolog i’n rhagoriaeth.

Mae ein myfyrwyr yn cael eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd.  Mae’r Coleg yn gartref i rai o leoliadau mwyaf mawreddog Cymru, mae’n rhedeg canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen o berfformiadau a’n gweithwyr proffesiynol o safon fyd-eang yn rhan annatod o hyfforddiant y myfyrwyr. Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel y gallant wthio ffiniau newydd, gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, a mynd ymlaen i gael gyrfaoedd gwerth chweil.  Mae’r dyfodol yn dechrau yma.

Mae'r Adran Actio, dan arweiniad y Pennaeth Perfformio Drama Ali de Souza, yn cynnig cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig mewn Actio ar gyfer y Llwyfan, y Sgrin a’r Radio, a’r Theatr Gerdd. Mae i'r hyfforddiant enw da sy'n arwain y diwydiant, mae’n cyflogi gweithwyr proffesiynol uchel eu parch i gynhyrchu gwaith ar gyfer sain, sgrin neu lwyfan sy'n wynebu'r diwydiant a'r byd y mae'n rhan ohono.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg, yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.

 

Rydym yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl i wyliau blynyddol hael. Dewch i ddarganfod beth yw manteision gweithio gyda ni.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.