Cydlynydd y Prosiect, Canfod Gyrfaoedd Creadigol

Cyflog
32,000
Location
Cymru (hybrid) gan deithio i Gaerdydd / ledled Cymru yn ôl yr angen
Oriau
Full time
Closing date
23.07.2025
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 22 July 2025

Cyfle cyffrous am secondiad tan ddiwedd mis Mawrth 2026 i weithio ar raglen gyrfaoedd newydd yng Nghymru: Canfod Gyrfaoedd Creadigol / Discover! Creative Careers, Cymru. 

Gyda mwy o fuddsoddiad gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), mae rhaglen 2025 - 2026 yn cynnwys sawl datblygiad sylweddol gan gynnwys ehangu i ddwy o wledydd y DU, gan ehangu ei chyrhaeddiad, a chysylltu hyd yn oed mwy o bobl ifanc â chyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau gyrfaoedd ar draws holl is-sectorau'r diwydiant creadigol. 

Adran: Gweithredu: Cymru 

Oriau: Amser llawn, 35 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener. 

Cyflog: £32,000 pro-rata, ynghyd â buddion Into Film 

Telerau: Tymor penodol hyd at 31ain Mawrth 2026 

Lleoliad: Cymru (hybrid) gan deithio i Gaerdydd / ledled Cymru yn ôl yr angen 

Yn adrodd i: Rheolwr y Prosiect, Canfod Gyrfaoedd Creadigol 

Mae holl staff Into Film yn gweithio mewn patrwm gwaith hybrid, gan gyfuno gweithio gartref â mynychu eu cyfarfodydd lleol a chenedlaethol yn ôl yr angen, ynghyd â rhywfaint o deithio ledled Cymru ac o bosibl ledled y DU, fel sy’n briodol i'r rôl. Swyddfa leol y rôl hon fydd Chapter, Caerdydd. 

Sut i wneud cais : Os hoffech wneud cais, yna a fyddech gystal ag anfon yr isod atom: 

• Dim mwy na 400-500 gair yn egluro sut eich bod yn cwrdd â gofynion y swydd 

• Pryd y byddwch chi ar gael i ddechrau (gan anelu at ddechrau Awst) hyd at 31 Mawrth 2026. 

• Eich manylion cyswllt 

Ebostiwch yr uchod erbyn 9am Dydd Mercher 23 Gorffennaf 2025 i HR@intofilm.org, gan nodi teitl y swydd yn glir (os ydych chi’n gwneud cais am y ddwy swydd yna plis gwneud dau gais unigol). Byddwn yn cysylltu gyda phawb erbyn y 28ain o Orffennaf a bydd unrhyw gyfweliadau yn cael eu cynnal ar 31 Gorffennaf neu 1 Awst. 

Ynglŷn ag Into Film 

Into Film yw prif elusen y Deyrnas Unedig ar gyfer ffilm mewn addysg ac yn y gymuned. Rydyn ni’n darparu gwybodaeth a chyngor am yrfaoedd yn y diwydiant sgrin, yn cefnogi gwneuthurwyr ffilm ifanc, ac yn helpu i gyflwyno pŵer adrodd storïau drwy’r ddelwedd symudol wrth addysgu yn y dosbarth. 

Rydyn ni hefyd yn cynnal Gŵyl Into Film yn flynyddol sy’n galluogi mwy na 400,000 o ddisgyblion i ymweld â’r sinema am ddim, a Gwobrau Into Film - y prif ddigwyddiad yn y DU i arddangos doniau ifanc ym maes creu ffilmiau. 

Mae rhaglen graidd Into Film ar gael am ddim i ysgolion gwladol, colegau a lleoliadau ieuenctid eraill yn y Deyrnas Unedig, diolch i gymorth gan y BFI, sy’n dyfarnu arian achosion da y Loteri Genedlaethol, a thrwy arianwyr allweddol eraill gan gynnwys Cinema First a Northern Ireland Screen. 

Ynglŷn â rhaglen Canfod Gyrfaoedd Creadigol 

Mae Canfod Gyrfaoedd Creadigol yn rhaglen sy’n cael ei hariannu gan y llywodraeth a’i harwain gan y diwydiant. Mae’n gweithio i sicrhau bod mwy o dalent, a thalent mwy amrywiol, yn dod i mewn i'r diwydiannau creadigol drwy ystod ehangach o lwybrau. Mae'r rhaglen hybrid o weithgareddau ac adnoddau sydd ar gael am ddim yn cynnig cyfleoedd go iawn i ddod i gyswllt â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, offer ar-lein, hyfforddiant a chefnogaeth drwy gydol y flwyddyn. 

Dechreuwyd Canfod Gyrfaoedd Creadigol, a elwir hefyd yn Rhaglen Gyrfaoedd Creadigol, gyda chyllid gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn 2018 ac mae wedi cael ei llunio a'i chefnogi'n uniongyrchol gan fusnesau creadigol, sefydliadau, cyrff masnach ac unigolion. Caiff y rhaglen ei harwain gan ScreenSkills mewn partneriaeth â dros 25 o sefydliadau a thrwy gydweithio â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, ac ym maes addysg a gyrfaoedd. 

Bydd Canfod Gyrfaoedd Creadigol yn darparu gwybodaeth am yrfaoedd a chyfleoedd i gwrdd â chyflogwyr i bobl ifanc 11-18 oed a'r rhai sy'n cefnogi eu penderfyniadau gyrfa, gyda'r nod o feithrin gweithlu mwy amrywiol a chynhwysol i’r dyfodol. Bydd y rhaglen yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2026, a bydd yn cynnwys gweithio ar draws partneriaid ac mewn cydweithrediad â sefydliadau’r diwydiannau creadigol ar draws 12 is-sector ledled Cymru. 

Crynodeb o’r Rôl 

Mae'r rôl gyffrous, tymor penodol hon, Cydlynydd y Prosiect, yn ganolog i gyflawni Canfod Gyrfaoedd Creadigol, sef menter hynod effeithiol a ddyluniwyd i agor llwybrau i’r sector creadigol i bobl ifanc—yn enwedig i rai o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. 

Gan weithio'n agos gyda thîm Into Film Cymru a'r partneriaid cyflawni, bydd y Cydlynydd Prosiect yn rheoli gwaith cynllunio, logisteg, cyfathrebu a chydlynu o ddydd i ddydd ar gyfer digwyddiadau a gweithdai Canfod, ynghyd â gweithgareddau mewn ysgolion, a hynny ledled y wlad gyda chymorth ac arweiniad gan Reolwr y Prosiect. 

Mae'r rôl hon yn gofyn am sgiliau trefnu rhagorol, cyfathrebu dwyieithog cryf (Cymraeg/Saesneg), ac ymrwymiad i ymarfer cynhwysol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod gweithgarwch yn cael ei gyflawni'n esmwyth yn ystod cyfnod cyflawni prysur ac yn cynorthwyo camau casglu data ac adrodd cywir drwy gydol cylch oes y prosiect. 

Prif Gyfrifoldebau: 

• Cydlynu’r gwaith o gynllunio a chyflawni gweithgareddau Canfod Gyrfaoedd Creadigol mewn partneriaeth ag ystod eang o bartneriaid a chyda’u cymorth. Bydd y digwyddiadau’n cynnwys digwyddiadau mewn ysgolion ac ar-lein, sgyrsiau am yrfaoedd creadigol, gweithdai ac arddangosfeydd byw. 

• Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer partneriaid cyflawni sy'n cymryd rhan yn y rhaglen a, lle bo angen, addysgwyr ac Arweinwyr Gyrfaoedd yn ystod cyfnod y prosiect. 

• Cynorthwyo partneriaid i reoli archebion, amserlennu, logisteg teithio, a threfniadau cyflawni ar gyfer pob digwyddiad, gan sicrhau ansawdd a chysondeb ar draws gwahanol leoliadau. 

• Cynnal cyswllt â phrosiectau a’u rheoli gyda chymorth gan dimau canolog Into Film. 

• Cynnal cyswllt a gweithio'n agos gyda Thimau Discover! Creative Careers/ Canfod Gyrfaoedd Creadigol ar draws y gwledydd i sicrhau bod y rhaglen yn cyd-fynd â chynlluniau ac amserlenni Discover! Creative Careers ledled y DU. 

• Cynorthwyo partneriaid ynghylch protocolau diogelu, trefniadau mynediad, a gweithdrefnau rheoli risg ar gyfer pob gweithgaredd. 

• Cynorthwyo’r gwaith o gasglu a mewnbynnu data cyfranogwyr ac ymgysylltu drwy sefydliadau partner a defnyddio system CRM Into Film (Salesforce) a chyfrannu at werthuso ac adrodd. 

• Ymateb i ymholiadau athrawon, adborth partneriaid, a heriau cyflawni yn brydlon ac yn broffesiynol. 

• Sicrhau bod yr holl waith cyflawni yn cyd-fynd ag amcanion y rhaglen i gyrraedd grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a meysydd blaenoriaeth ledled Cymru. 

• Darparu diweddariadau ac adroddiadau cynnydd rheolaidd i Arweinydd Rhaglen Into Film Cymru a Thîm Cyflawni y DU. 

• Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill a gaiff eu pennu gan Into Film. 

Cyfrifoldebau Cyffredinol: 

• Ymrwymiad i ansawdd yn fewnol ac ym mhob cyswllt â rhanddeiliaid Into Film gan gynnwys athrawon, plant a phobl ifanc, partneriaid yn y diwydiant, cyllidwyr, cefnogwyr, rhieni a gofalwyr, ac aelodau'r cyhoedd. 

• Ymrwymiad a chyfranogiad gweithredol wrth helpu Into Film i fyw ei werthoedd a'i ethos mewn perthynas â thegwch, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy bopeth y mae'n ei wneud. 

• Cyfrannu at gynllunio hirdymor i sicrhau twf yn unol â'r galw a'r adnoddau. 

• Cyfrannu at fonitro a gwerthuso gwaith Into Film yn rheolaidd. 

Manyleb y Person: 

Gofynion Sylfaenol: 

• Profiad blaenorol o gydlynu prosiectau neu ddigwyddiadau gyda nifer o bartneriaid neu randdeiliaid ar lefel genedlaethol. 

• Sgiliau trefnu cryf, gyda'r gallu i reoli blaenoriaethau cystadleuol mewn amgylchedd cyflym. 

• Dealltwriaeth o'r dirwedd Gyrfaoedd yng Nghymru a fframweithiau Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith a Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith. 

• Llwyddiant blaenorol a sgiliau cyfathrebu a meithrin perthnasoedd rhagorol, yn enwedig gydag addysgwyr, partneriaid ieuenctid, a rhanddeiliaid yn y diwydiant. 

• Dealltwriaeth amlwg o'r dirwedd addysg a/neu ymgysylltiad ieuenctid yng Nghymru. 

• Dealltwriaeth amlwg o'r sector creadigol yng Nghymru. 

• Hyder wrth ddefnyddio taenlenni, offer amserlennu, a systemau CRM (e.e. Salesforce neu debyg). 

• Profiad o reoli logisteg, archebion, neu amserlennu ar gyfer gweithgaredd byw mewn ysgolion neu ar-lein. 

• Ymrwymiad i ymarfer cynhwysol a mynediad cyfartal i bob dysgwr. 

• Y gallu i deithio'n annibynnol ledled Cymru; mae trwydded yrru lawn, lân y DU a mynediad at gerbyd yn hanfodol. 

• Parodrwydd i weithio gyda'r nos neu benwythnosau o bryd i'w gilydd, gyda rhybudd, os oes. 

Dymunol: 

• Profiad o gyflwyno neu gynorthwyo digwyddiadau neu weithdai gyrfaoedd creadigol. 

• Cyfarwydd â phrotocolau diogelu a rheoli risg wrth weithio gydag ysgolion a/neu leoliadau ieuenctid. 

• Profiad o gynorthwyo prosesau monitro a gwerthuso. 

• Cyfarwydd â phecyn Microsoft Office 

• Gwerthfawrogiad o, a gwybodaeth am, ffilmiau a dysgu creadigol. 

 

Mae'n ofynnol i bob gweithiwr sy'n gweithio'n rheolaidd gyda data plant ac aelodau ymgymryd â chliriad DBS uwch (a/neu wiriad Access NI neu wiriad Disclosure Scotland, yn dibynnu ar leoliad gwaith), a geir ar draul Into Film; mae cyflogaeth yn ddibynnol ar hyn. 

Buddion Into Film : 

• Gwyliau blynyddol - 28 diwrnod (llawn amser / pro rata), gan gynnwys 3 diwrnod ar gyfer Nadolig a'r flwyddyn newydd 

• Pensiwn - hyd at 5% o'r cyflog (2% dros y cyfraniad cyflogaeth statudol disgwyliedig) 

• Gweithio'n hyblyg - gan gynnwys oriau cywasgedig, rhannu swydd - byddwn yn ystyried pob cais yn deg, ond Into Film i gymeradwyo 

• Cyfnod rhieni / tadolaeth / rhannu seibiant rhieni 

• Cefnogaeth ariannol i gyrsiau astudio di-log 

• Cefnogaeth ariannol di-log i deithio / sgwter / beic 

• Rhaglen Cefnogaeth Cyflogwyr - cefnogaeth lles 24/7, cyngor ac arweiniad 

• Yswiriant iechyd Wisdom - di-gyfraniad (heb law am drwy gyfraniad treth cyflog) 

• BenefitHub - porthol lle darperir gostyngiadau ar gynnyrch a gwasanaethau pellach 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.