Christmas at Bute Park: Cyfle dylunio i artistiaid

Cyflog
£10,000
Location
Parc Bute, Caerdydd
Closing date
15.08.2025
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 July 2025

Mae From The Fields yn cynnig cyfle i ddylunwyr/artistiaid greu eu gosodiad eu hunain ar gyfer y Nadolig ym Mharc Bute. Gyda chefnogaeth eu tîm rheoli creadigol a chynhyrchu, bydd artistiaid yn cael cynnig y cyfle i brofi sut beth yw creu gosodiad ar gyfer llwybr golau trochol y byddent wedyn yn gallu ei gymryd a'i arddangos mewn llwybrau golau eraill neu ddigwyddiadau tebyg.

Bydd y prosiect yn cynnig y cyfleoedd canlynol i gefnogi datblygiad unrhyw gyfansoddiadau:

  • Cyfarfod â'r tîm Creadigol y tu ôl i'r Nadolig ym Mharc Bute
  • Taith o amgylch y safle
  • Crynodeb creadigol
  • Cefnogaeth ac arweiniad
  • Gwahoddiad i gael rhagolwg o'r gosodiadau cyn agor y safle

PWY ALL YMCHWNEGU?

I fod yn gymwys i wneud cais rhaid i'r artist/iaid fod wedi'u lleoli yng Nghymru a chael eu hystyried yn dalent sy'n dod i'r amlwg (waeth beth fo'u hoedran) gyda'r gallu i gyflawni eu syniadau i ansawdd uchel. Mae From the Fields yn arbennig o awyddus i ymgysylltu ag artistiaid sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn y diwydiant digwyddiadau. Gallwch wneud cais am y cyfle hwn fel dylunydd/artist sengl neu fel cydweithfa. Rydym yn awyddus bod y Nadolig ym Mharc Bute yn rhoi llwyfan i'r iaith a'r diwylliant Cymreig, ac felly rydym yn annog yn gryf y rhai sydd â threftadaeth Gymreig i wneud cais, ond nid yw hyn yn hanfodol.

Eleni rydym yn chwilio am artist / dylunydd neu grŵp o artistiaid i greu darn y gellir ei ddangos mewn llwybrau golau neu ddigwyddiadau eraill ar ôl y Nadolig ym Mharc Bute. Gall y tîm creadigol hwyluso cysylltiadau â'r artist i annog hyn i ddigwydd.

BETH SYDD EI ANGEN?

A allech chi gynnwys y canlynol yn eich cynnig:

  • Amlinelliad o'ch dyluniad gyda delweddau neu luniadau. Gall y delweddau fod yn fwrdd naws o enghreifftiau o ddyluniadau / gosodiadau / eitemau tebyg
  • Dadansoddiad cyffredinol o'r gyllideb
  • Yr ardal a ddewiswyd yn y parc a disgrifiad o sut y bydd y gosodiad yn cael ei osod yn yr ardal honno
  • Disgrifiad byr o sut rydych chi eisiau i'r gynulleidfa deimlo a dehongli'r dyluniad
  • Er nad yw'n ofyniad, rydym yn eich annog yn gryf i geisio creu gosodiad sy'n allyrru golau yn hytrach na bod angen golau arno
  • Mae'n bwysig canolbwyntio ar themâu'r Nadolig a thymor y gaeaf
  • Byddem wrth ein bodd pe bai'r gosodiad yn gallu mynd ymlaen a theithio digwyddiadau eraill felly cofiwch hyn
  • Gall y gosodiad gynnwys trac sain. Byddai angen i'ch trac sain fod rhwng 3 a 4 munud o hyd. Os nad oes gennych drac yr hoffech ei gynnwys, gall y cynhyrchydd creadigol eich cynorthwyo i gyflenwi trac sy'n bodoli eisoes.

CYNIGION

Nodwch yr ystyriaethau ymarferol canlynol wrth roi cynnig at ei gilydd.

Dylai'r gosodiad fod yn wydn hyd at 6 wythnos o dywydd gaeafol Prydeinig, felly dylai fod yn ymarferol o dan y rhewbwynt (hyd at -10), gwrthsefyll gwyntoedd 40mya a glaw trwm.

A yw’n addas ar gyfer llwybr Nadoligaidd – er nad yw ein llwybr yn cynnwys elfennau traddodiadol y Nadolig (Santa, Ceirw ac ati) mae’n canolbwyntio ar themâu’r Nadolig, boed yn dân clyd, dathliad, treulio amser gyda’n gilydd, neu ymdeimlad o rhyfeddod, ac mae ganddo awgrymiadau cynnil o seiniau traddodiadol y Nadolig drwyddo draw.

Bydd y parc ar agor yn ystod y dydd a bydd diogelwch y gwaith yn cael ei fonitro gan staff diogelwch ond dylid ystyried sut y gellir gosod unrhyw osodiadau yn y ddaear neu eu gwneud yn arbennig o anodd eu symud (er enghraifft, mae rhaffau hir o LEDs yn anodd eu tynnu'n gyflym ac felly’n addas)

Ar y safle bydd technegwyr medrus sy’n gallu datrys unrhyw namau syml sy’n codi yn y gwaith yn ystod y sioe a byddant yn gwirio bod y gwaith celf yn gweithio fel y bwriadwyd bob dydd. Bydd angen cyfathrebu’n drylwyr am unrhyw ddiffygion mawr gyda’r artist neu gwneuthurwr nes ei ddatrys. Yr artist neu’r gwneuthurwr sy’n parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau bod y gwaith celf yn gweithio fel y bwriadwyd ar gyfer y 6 wythnos y mae’n fyw adeg y Nadolig ym Mharc Bute.

Y gyllideb ar gyfer y prosiect hwn yw £10,000.00

Anfonwch ymholiadau a chyflwyniadau at :  Lizzie.Rayner@fromthefields.co.uk

Os hoffech chi drafod syniad neu gynnig neu'r lleoliadau o fewn Parc Bute ar gyfer gosodiad, mae croeso i chi gysylltu â’r cyfeiriad e-bost uchod. Rydw i’n fwy na pharod i gynorthwyo gyda syniadau a chysyniadau.

Rhaid derbyn pob cyflwyniad erbyn 5pm ar 15 Awst 2025.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.