
Dywedwch wrthym amdanoch chi a'ch cefndir creadigol
Rwy'n awdur ac artist o Gymru a fi yw sylfaenydd g39, gofod a redir gan artistiaid yng Nghaerdydd. Rwy'n treulio llawer o’m hamser yn cefnogi artistiaid eraill ac yn creu lleoedd i bethau ddigwydd; weithiau drwy eu hadeiladu yn llythrennol, weithiau trwy wneud cysylltiadau rhwng pobl neu rannu adnoddau. Cefais fy magu ym Margoed ond rydw i'n byw yng Nghaerdydd. Cefais fy nghynnwys yn rhestr 10 nofel gyntaf The Observer ar gyfer 2025 ac ar hyn o bryd, mae ysgrifennu’n fy ysbrydoli.
Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf, felly?
Dwi wastad yn meddwl mai'r blynyddoedd od yw'r rhai mwyaf diddorol a daeth llawer o bethau gwahanol at ei gilydd i mi yn ddiweddar - mae'n 2025 prysur.
Dechreuodd y flwyddyn gyda Feathertongue, ffuglen fer ar BBC Sounds; ym mis Mawrth cyhoeddwyd fy nofel gyntaf, A Room Above a Shop, gan Granta; a lansiodd fy arddangosfa unigol, Liar, Liar, yn ddiweddar yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Wrth gwrs, mae'r gwaith caled yn digwydd amser maith cyn i unrhyw beth gael ei wneud yn gyhoeddus – ysgrifennwyd y nofel dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae'n stori garu rhwng dau ddyn hoyw, wedi'i lleoli yng Nghymru ar ddiwedd yr 80au ar adeg o ddirywiad diwydiannol ac ansicrwydd economaidd. Mae'r dirwedd newidiol hon yn rhan allweddol o'r nofel. Mae'r berthynas yn tyfu yn y gofod bach uwchben y siop, ond mae eu cymuned yn lle o ryddid yn ogystal â 'chynhwysydd' clawstroffobig ar gyfer eu bywydau.
Mae Feathertongue yn troedio tir tebyg, ond yn canolbwyntio ar ddau fachgen ar drothwy’r glasoed, â’r ddeinameg ’nôl a ’mlaen sy’n gysylltiedig â herio, betio a bwlio. Daeth y stori i mi pan ddysgais ystyr llythrennol yr enw Cymraeg glöyn byw. Roedd ysgrifennu ar gyfer y radio a meddwl am rythm a phwyslais yn wers enfawr.
Mae'r ddwy stori’n teimlo'n gyfarwydd, ond maen nhw'n cael eu hadrodd o safbwynt penodol iawn, a lle penodol iawn. Yn anad dim, maen nhw'n ymwneud â chwilio am gysylltiad: am deyrngarwch, diniweidrwydd, ofn a chryfder perthnasoedd teuluol cymaint ag y maen nhw’n straeon am ffitio i mewn, cuddio, dynwared a thwyllo.
Mae Liar, Liar yn mynd â'r elfen hon ymhellach – mae un peth yn dirprwyo ar gyfer y llall. Ar un lefel mae'n ymwneud â rhithiau a chuddio; ond mae'n tynnu ar brofiad byw o rywedd cwiar mewn ardal wledig, o berfformio'n syth. Gallwch chi ddisgwyl hysbysfwrdd stereosgopig enfawr, artist Foley, ffilm o ddrudwy’n dynwared synau dynol, a channoedd o bropiau nythod drudwy wedi’u gwneud â llaw. Roedd yn hwyl teimlo ymdeimlad o chwarae a ffuglen, a gwnaeth yr arddangosfa ganiatáu hynny.
Beth oedd yr her fwyaf wyneboch chi?
Mae bywyd bob amser yn pentyrru pethau ar ben ei gilydd i’n hatal ni. Weithiau mae'r ffordd wedi'i rhwystro'n llwyr, ond ar adegau eraill rwy'n dysgu i ddod o hyd i ffordd o gwmpas neu'n ceisio manteisio ar rwystrau.
Ar lefel bragmataidd, mae gweithio yn y celfyddydau yng Nghymru yn aml wedi golygu oriau hir a chyflog isel, felly mae'n rhaid i mi bob amser ychwanegu at fy incwm gyda swyddi llawrydd. Fel arfer, alla i ddim fforddio gwrthod gwaith â thâl, felly mae’n ei gwneud hi’n anodd cynnal trefn ddyddiol. Cefais fy magu mewn cartref lle roedd arian bob amser yn bryder ac rwy'n byw gydag ymwybyddiaeth gyson o gyllid; neu ddiffyg cyllid. Rwy'n gwneud pob math o swyddi i gadw dau ben llinyn ynghyd, sy'n golygu bod neilltuo amser ar gyfer y stiwdio, neu ysgrifennu i mi fy hun, yn dod yn ail. Fi oedd y cyntaf i fynd i'r coleg yn fy nheulu i – a'r unig un yn y celfyddydau – felly weithiau mae'n teimlo'n anodd esbonio beth rwy'n ei wneud, ei bod hi yn swydd go iawn.
Un o'r swyddi hyn yw ysgrifennu i bobl eraill – cynigion, adolygiadau ysgrifenedig ac erthyglau – ond mae'r rhain i gyd yn waith â thâl, felly maen nhw'n cael blaenoriaeth dros fy ysgrifennu fy hun. Cymerodd hi gryn amser i mi roi caniatâd i fi’n hun ysgrifennu.
Un rhwystr fawr oedd fy mhetruster fy hun; treuliais lawer o amser yn meddwl "Oes hawl gen i fod yn y byd ’ma?" Mae ein disgwyliadau’n cael eu siapio’n gynnar iawn mewn bywyd a doeddwn i ddim yn blentyn academaidd – ond roeddwn i'n gallu tynnu llun. Yn gynnar iawn, celf oedd y bocs y cefais fy rhoi ynddo – yn hapus, roeddwn i'n caru, ac rwy’n dal i garu, yr agwedd honno ar yr hyn rydw i'n ei wneud – ond mae'n golygu eich bod chi'n tyfu i fyny gyda syniad clir iawn o'r hyn a ganiateir, a thrwy hynny, o bwy ydych chi. Mae'r disgwyliadau hynny'n mynd yn anodd iawn i'w cymylu. Maen nhw'n 'gwreiddio' o'n cwmpas ni. Serch hynny, mewn rhai ffyrdd, rwy'n credu bod yr holl amser a dreuliais yn dysgu sut i edrych, yn cael fy nysgu mewn ffordd weledol, wedi fy helpu. Mae hynny, ynghyd â llawer o naïfrwydd, wedi fy nghadw i fynd!
Allwch chi rannu awgrymiadau i eraill sydd am gyhoeddi eu gwaith?
1. Yn gyntaf, anghofiwch am y freuddwyd o lyfr ffisegol ar y silff, anghofiwch am y syniad o dudalennau print a dyluniad clawr a'ch enw chi ar rywbeth.
2. Rhaid i’r ysgrifennu ddod yn gyntaf, ac os ydych chi'n ysgrifennu ffuglen fer, dylai pob penderfyniad, pob gair, weithio'n galed iawn. Yn aml mewn sgwrs rydyn ni'n oedi ac yn dweud 'Pam oeddwn i'n dweud ’na?' ac mae'n werth gofyn hynny gyda phob brawddeg. Os nad yw'r ysgrifennu y gorau y gall fod, beth yw'r pwynt gwneud llyfr ohono?
3. Sylwch ar bethau. Gwreiddiwch eich hun yn y byd a sylwch ar bethau. Eich holl synhwyrau, holl bwysau ac ysgafnder pethau. Mewn perygl o swnio'n wirion, mae'r cyfan yno, yn aros amdanoch chi. Peidiwch â meddwl bod ysgrifennu’n rhywbeth ar wahân i fywyd, bod yn rhaid i chi stopio ac eistedd wrth ddesg i ysgrifennu.
4. Darllenwch. Darllenwch bopeth – neu gwrandwch ar bopeth. Tudalennau trafferthion, nofelau, cyfarwyddiadau, a cheisiwch ddeall beth mae'r geiriau hynny'n ei wneud. Ceisiwch ddeall y bwriad - emosiynol, perswadiol, trafodaethol - sut mae'n gweithio arnoch chi?
5. Anghofiwch am y cyfrif geiriau, jyst ysgrifennwch. Peidiwch â gosod targedau, peidiwch â meddwl bod ffordd gywir neu anghywir o wneud pethau. Ysgrifennwch mewn creon, ysgrifennwch mewn nodiadau ffôn, ysgrifennwch ar eich llaw, sut bynnag mae'n gwneud synnwyr. Mae lloffa neu wlana’n eiriau da. Maen nhw’n cyfeirio at y broses o gribinio tir sydd eisoes wedi'i gynaeafu neu gasglu darnau o wlân sydd wedi’u dal yma ac acw i gasglu’r tameidiau amhroffidiol ’na, ac mae'n beth da i'w gofio. Casglwch bethau.
Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich cam creadigol cyntaf?
Des i’n ôl i Gymru ar ddiwedd y 90au, ac mae Caerdydd wedi bod yn gartref i mi ers hynny. Mae newidiadau enfawr wedi digwydd dros y cyfnod hwnnw - rhai pethau da, rhai colledion - ond dyna sut mae Caerdydd wedi bod erioed, mae’n llifo.
Weithiau dwi'n meddwl nad ydyn ni’n gwneud dinasoedd yn dda iawn yng Nghymru, ond rydyn ni'n blydi dda am wneud trefi mawr – a dyna sut mae Caerdydd yn teimlo i fi. Ac mae hynny’n beth positif, ac rwy'n gobeithio na fydd byth yn newid. Nid maint yw’r peth pwysig, neu gyfyngu ar uchelgeisiau, ond yn hytrach agwedd a chymunedau. Yn ddaearyddol rydyn ni rhwng y môr a'r mynyddoedd, y Cymoedd, ac fe ddylen nhw ein hatgoffa ni o pam mae Caerdydd yn bodoli – pwynt pinsio’r Chwyldro Diwydiannol.
Beth gallwn ni ei ddisgwyl gennych chi nesaf?
Rwy'n falch iawn o fod yn gweithio gyda'r bardd a'r artist Esyllt Lewis ar addasiad Cymraeg o A Room Above a Shop. Mae wedi bod yn broses ddiddorol iawn o ailddychmygu'r cymeriadau a'u perthnasoedd, ailfeddwl rhythm ac idiomau wrth gyfieithu, ar gyfer y rhan benodol honno o Gymru, gan bwysleisio gwreiddiau'r prif gymeriadau. Yn dwyn yr enw syml Lan Stâr, caiff ei lansio’n ddiweddarach yr haf hwn.
Mae rhywbeth ar y gweill hefyd o ran y nofel nesaf, dwy nofel a dweud y gwir. Y cyfan yw un ohonyn nhw yw cylch o sgribls dwi’n ceisio ei ddatrys. Mae wedi'i gosod ar un darn o dir alltudiedig sy'n lleihau, ac mae wedi'i hysgrifennu mewn pedwar llais. Hyd yn hyn, y cyfan alla’ i ei ddweud yw bod coeden yn tyfu o gneuen sy'n rholio o botyn sy'n malu ar y llawr. Rydw i hefyd wedi gorfod dod o hyd i air newydd ar gyfer y pwynt lle mae corsen yn torri wyneb dŵr, tilym, sy'n arwyddocaol. Dwi ddim yn siŵr sut yn union y byddaf yn ei sillafu eto, ond dechreuwch ei ddefnyddio nawr!