Cydlynydd Marchnata Aelodau, Canolfan Ffilm Cymru

Cyflog
£26,353 (dyfarniad cyflog i ddod)
Location
Hybrid. 1 - 2 ddiwrnod gwaith yr wythnos yn Chapter yng Nghaerdydd a/neu gyfarfodydd oddi ar y safle
Oriau
Full time
Closing date
13.03.2025
Profile picture for user Film Hub Wales

Postiwyd gan: Film Hub Wales

Dyddiad: 17 February 2025

Diben y Swydd
Cefnogi’r Ganolfan a’i haelodau[1] i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer sinema annibynnol Brydeinig a rhyngwladol, a hynny ledled Cymru, drwy waith marchnata ac allgymorth. Mae hyn yn cynnwys prosiect 'spotlight' penodol yng Ngogledd Cymru a marchnata B i B o gyfleoedd i aelodaeth y Ganolfan.

Mae ffurflenni cais a disgrifiad swydd ar gael i’w lawrlwytho below. Ni allwn dderbyn CVs. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses o wneud cais cysylltwch os gwelwch yn dda gyda apply@chapter.org

Ni fyddwn yn gallu cyfarfod gydag ymgeiswyr unigol cyn y cyfweliad.

 
Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Iau 13 Mawrth, 5.30pm
Cynhelir cyfweliadau: Dydd Llun 24 Mawrth unai yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd.

Amdanom ni
Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau - o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 300 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU.

Rydym yn rhan o rwydwaith wyth canolfan yn y DU a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru.

Roedd Canolfan Ffilm Cymru yn falch o arwain y Strategaeth Sinema Gynhwysol ar ran BFI FAN 2017-23.

[1] Mae Canolfan Ffilm Cymru yn gweithio gydag aelodau ar draws Cymru. Mae aelodau yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, gymdeithasau ffilm, sinemau cymunedol, gwyliau ffilm, sinemau masnachol annibynnol, darparwyr digwyddiadau/pop-yp, archifau, darparwyr/sefydliadau addysg ffilm, darlledwyr, dosbarthwyr ffilm, amlblethiadau a chyrff celfyddydau/heb fod yn ffilm ehangach.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event