Rydym yn cynnull symposiwm i ystyried yr elfennau a geir mewn dinas greadigol, mewn partneriaeth â British Council Cymru, ar Ddydd Iau, Rhagfyr 8 2016.
Mae Caerdydd: Prifddinas Greadigol yn ymateb i ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd yr economi greadigol, nid yn unig o ran ei chyfraniad at ansawdd bywyd pobl, ond fel rhan benodol o'r economi yn ei rhinwedd ei hun.
Bydd y digwyddiad yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd o flwyddyn gyntaf Rhwydwaith Caerdydd Creadigol - prosiect â'r nod o gadarnhau Caerdydd fel dinas greadigol, gyda sector diwylliannol sylweddol sydd yn rhan o fywyd y ddinas ac sydd hefyd yn gonglfaen ei heconomi.
Gyda chefnogaeth Cyngor Prydeinig Cymru, bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys themâu a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn sgil ymchwil ehangach a safbwyntiau meddylwyr blaenllaw yn yr economi greadigol.
Dywedodd Rebecca Gould, Pennaeth y Celfyddydau yng Nghyngor Prydeinig Cymru:
“Mae ymchwil Rhwydwaith Caerdydd Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd yn allweddol i ddwysau ein dealltwriaeth o economi greadigol ffrwythlon Caerdydd a bydd yn darparu tystiolaeth empirig gadarn o statws y ddinas fel un o ganolfannau creadigol craidd y DU. Mae'r symposiwm yn cynnig cyfle i ni rannu'r ymchwil hwn gyda chynulleidfa eang; i fywiogi, ysbrydoli ac addysgu.
"Mae creadigrwydd, boed yn dod o lawr gwlad, gan sefydliadau annibynnol neu ddiwydiannau ffurfiol sefydledig, yn rhedeg drwy enaid Cymru.”
Cyflwynir y brif araith gan yr economegydd blaenllaw yn y maes hwn, a Chyfarwyddwr Economi Greadigol mewn Polisi ac Ymchwil yn Nesta, Hasan Bakhshi. Mae ei waith yn cynnwys cyd-ysgrifennu adolygiad sgiliau ‘Next Gen’ o gemau fideo a’r diwydiannau effeithiau gweledol, wnaeth arwain at ddiwygiad sylweddol o gwriciwlwm TG a chyfrifiadura Lloegr a Maniffesto’r Economi Greadigol, sy’n gosod 10 argymhelliad sut gall llywodraethau helpu’r economi greadigol dyfu.
Deiliad Cadair yr Economi Ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Ian Hargreaves, fydd yn cadeirio'r symposiwm. Mae Ian yn gymeriad blaenllaw yn y drafodaeth economi greadigol yn y DU. Fe weithiodd ar brosiect y diwydiannau creadigol ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2009 ac roedd yn gyd-gyfarwyddwr REACT (2011-16), rhaglen gyfnewid gwybodaeth yr economi greadigol gwerth £4miliwn ag ariannwyd gan yr AHRC yn Ne Orllewin Lloegr a Chymru. Mae hefyd yn aelod bwrdd National Theatre Wales a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Un o brif amcanion y prosiect Economi Greadigol yw sicrhau gwell dealltwriaeth o economi greadigol Caerdydd. Dros y flwyddyn ddiweddaraf, gan fod gennym beth data cyfredol am siâp, cymeriad a maint yr economi greadigol yng Nghaerdydd, cynhaliwyd gwaith ymchwil mapio i ganfod y bobl, y sefydliadau a’r busnesau hynny sy’n gweithio’n y diwydiannau creadigol.
Caiff yr adroddiad dilynol, Mapio Economi Greadigol Caerdydd, ei ddosbarthu yn symposiwm Caerdydd: Prifddinas Greadigol gan yr Athro Justin Lewis o Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd.
Yn dilyn hyn bydd sgwrs banel gyda Chyfarwyddwr yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd Sara Pepper; Sam Murray, rhan o’r tîm Mapio Caerdydd a’r Athro Samantha Warren o Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae’r siaradwyr gwadd eraill yn cynnwys yr Athro John Newbigin o Creative England; yr Athro Vanessa Toulmin o Brifysgol Sheffield; yr Athro John Dovey a’r Athro John Holden o Brifysgol Gorllewin Lloegr a Chyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies.
Cynhaliwyd Caerdydd: Prifddinas Greadigol ddydd Iau, 8 Rhagfyr rhwng 9.30am a 4pm yn Adeilad Hadyn Ellis Prifysgol Caerdydd.