Cydlynydd Gweinyddol

Cyflog
£26,000 y flwyddyn
Location
Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin. Mae S4C yn gweithredu polisi gwaith hybrid.
Oriau
Fixed term
Closing date
03.11.2025
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 13 October 2025

Mae bod yn rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Pam ymuno ag S4C?

Yn S4C, rydym yn angerddol am greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein prif werthoedd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.

Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni barhau i feithrin diwylliant gwaith sy’n rhoi pobl wrth galon y sefydliad. Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol, cydymdeimladol a llawn egni sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n tîm Pobl a Diwylliant.

Trosolwg o’r Swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn hynod drefnus i gefnogi’r timau Gweithrediadau a Pobl a Diwylliant ar brosiect hanfodol i gydlynu ein gofynion storio corfforol ar draws y timau. Bydd hyn yn cynnwys digideiddio ffeiliau ac sicrhau bod ffolderi rhannu yn cydymffurfio â gofynion GDPR; ac archwilio eitemau corfforol mewn storfa fel setiau a dodrefn, gan nodi eitemau i’w cadw neu eu hailgylchu.

Bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau trosglwyddiad diogel o gofnodion papur i gofnodion digidol, gan wella safonau rheoli dogfennau a chydymffurfiaeth yr adran, yn ogystal â symleiddio ein gofynion storio corfforol yn unol â’n prosesau gweithredol.

Manylion Pellach

Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin. Mae S4C yn gweithredu polisi gwaith hybrid.

Cyflog: £26,000 y flwyddyn

Contract: Contract tymor penodol am 3 mis

Cyfnod Prawf: 1 mis

Oriau: Hyd at 35.75 awr yr wythnos

Gwyliau: Yn ogystal â’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn. (Sylwer: bydd y nifer hwn yn cael ei gyfrifo'n ôl y gyfradd pro rata os ydych yn gweithio’n rhan amser).

Pensiwn: Mae staff cyflogedig yn gymwys i ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol a all gael ei ddiwygio o bryd i’w gilydd. Os ydych yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 3 Tachwedd i Pobl@s4c.cymru neu Adran Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Dyddiad Cyfweliadau: 10 Tachwedd 2025

Ni dderbynnir CV.

Mae croeso i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.