Swyddog Marchnata

Cyflog
£38,000.00 y flwyddyn
Location
Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa)
Oriau
Full time
Closing date
22.09.2025
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 10 September 2025

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.

Drwy weithgareddau marchnata arloesol byddwch chi’n helpu i wireddu ein Strategaeth 

Farchnata a Chyfathrebu er mwyn codi ymwybyddiaeth o S4C a’r oll mae’n ei gynnig, gan 

ddenu cynulleidfaoedd Cymru a thu hwnt trwy fanteisio ar y cyfleoedd mai llwyfannau digidol yn eu cynnig i ymgyrchoedd marchnata, brand ac ymgysylltu.

Byddwch chi’n gyfrifol am rannu a hyrwyddo cynnwys a gwasanaethau S4C gan feithrin perthynas barhaus â chynulleidfaoedd allweddol, cwmnïau cynhyrchu a rhanddeiliaid amrywiol.

Drwy amryw weithgareddau marchnata byddwch yn dangos sut mae S4C yn ceisio sicrhau fod y Gymraeg yn rhan bwysig o fywyd pawb yng Nghymru drwy ddarparu cynnwys beiddgar ac arloesol sy’n dathlu’n diwylliant cyfoes.

 

Manylion eraill

Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 ddiwrnod mewn swyddfa a chyfnod swyddfa parhaus am y bythefnos gyntaf er mwyn hyfforddi - mae'n debygol y bydd yr hyfforddiant yma yn digwydd yn ein swyddfa/swyddfeydd yng Nghaerfyrddin neu Gaerdydd). 

Cyflog: £38,000.00 y flwyddyn

Cytundeb: Parhaol

Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau. 

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%.  

Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig  

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 22 Medi 2025.

Nid ydym yn derbyn CV.   

Dyddiad Cyfweliad: 02 Hydref 2025, lleoliad i’w gadarnhau. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.