Os maent ar gael, hysbysebir cyfleoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Nid yw Caerdydd Creadigol yn gyfrifol am ddewis iaith hysbysebwyr allanol.
Rheolwr Monitro Gwleidyddol

Postiwyd gan: Grasshopper
Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol sydd â chefndir ym meysydd gwleidyddiaeth, polisi, materion cyhoeddus neu lywodraeth, i helpu datblygu a goruchwylio ein gwasanaeth monitro gwleidyddol yn Grasshopper.
Rydym yn dymuno penodi rhywun sydd â chraffter gwleidyddol cryf, sgiliau rheoli prosiectau gwych, a hanes llwyddiannus o gyflawni mewn amgylchedd prysur.
Swyddog Marchnata

Postiwyd gan: Swyddi S4C
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.
Drwy weithgareddau marchnata arloesol byddwch chi’n helpu i wireddu ein Strategaeth
Briff Dylunio: Map Tirwedd Tref Caerffili
Postiwyd gan: Ginkgo Projects
Rydym yn chwilio am ddylunydd, artist neu wneuthurwr i ddylunio a chreu map tirwedd yn rhan o raglen gwelliannau amgylcheddol rhwng Heol Caerdydd a Heol y Cilgant.
Mae'r prosiect yn rhan o fframwaith adfywio ehangach, sef Cynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035. Un elfen allweddol o'r cynllun hwn yw gwella'r gwaith o adrodd stori'r gorffennol a naratif y presennol, eu cefnogi a'u gwneud yn weladwy o fewn y treflun, er mwyn atynnu ymwelwyr a thrigolion lleol i ymweld a chrwydro canol y dref.
Goruchwylwr Bar a Chegin

Postiwyd gan: shermantheatre
LLAWN AMSER, PARHAOL
Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Goruchwylwr Bar a Chegin. Mae hon yn rôl gyffrous a heriol o fewn y sefydliad ac yn ganolog i'n helpu i gyflawni ein huchelgais i greu theatr wych a darparu profiad gwych i ymwelwyr fydd yn cyffroi cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd a thu hwnt.
Cyfarwyddwr Datblygu Busnes

Postiwyd gan: AandB Cymru
Mae C&B Cymru yn chwilio am uwch reolwr profiadol i ymuno â'i dîm.
Cyfarwyddwr Datblygu Busnes
Llawn amswer, wedi’i leoli yng Nghaerdydd
Cyflog - £40K
Bydd y Cyfarwyddwr Datblygu Busnes ymgymryd â rôl arweiniol mewn tyfu a chynnal perthynas C&B Cymru gyda’r sector corfforaethol.
Recriwtio Ymddiriedolwyr Papertrail

Postiwyd gan: Papertrail
Mae Papertrail yn recriwtio ymddiriedolwyr newydd i fod yn rhan o siapio dyfodol y cwmni ym myd y theatr a straeon na chlywir yng Nghymru
Rydym yn tyrchu am straeon na chlywir a’u rhannu gyda chynulleidfa mewn ffyrdd unigryw. Mae pob cynhyrchiad yn plethu ysgrifennu beiddgar gyda llwyfanu anturus, ac yn golygu gweithio law yn llaw â chymunedau wrth greu y gwaith. Mae ein proses yn cael ei yrru gan chwilfrydedd. Rydym yn awyddus i ddod i adnabod pobl mewn lleoliadau penodol a dod o hyd i’r stori sydd angen cael ei chlywed.